Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 18 Ebrill 2013 |
|
|||
Amser: |
11:30 - 12:30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2013(5) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Mike Snook, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Swyddog) Nerys Evans (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding.
Rhoddodd Claire Clancy y wybodaeth ddiweddaraf am y problemau TG a gafwyd yn gynharach yr wythnos honno. Byddai nodyn yn cael ei ddosbarthu i’r Comisiynwyr yn egluro’r materion a’r ymateb.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar y cofnodion.
2. Adolygiad strategol o ystâd y Cynulliad 2013
Rhaid rheoli Ystâd y Cynulliad yn ofalus er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyfleusterau sydd ar gael. Mae’r adeiladau eiconig yn ganolog i allu’r Cynulliad i ymgysylltu â phobl Cymru a thu hwnt ac i godi ymwybyddiaeth o’r Cynulliad fel cartref democratiaeth Cymru.
Trafododd y Comsiynwyr yr heriau presennol a’r heriau posibl yn y dyfodol ar yr ystâd, a nodwyd nifer o faterion i’w hystyried yn fanylach.
Gall y galw am y lleoedd cyfyngedig sydd ar gael fod yn uchel iawn ar adegau penodol ac maent yn amrywio’n sylweddol drwy gydol y flwyddyn. Cytunwyd y dylai’r defnydd o gyfleusterau fel ystafelloedd cyfarfod fod yn hyblyg ac y dylid eu rheoli’n greadigol fel y gellir diwallu anghenion holl ddefnyddwyr yr ystâd, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur fel ar ddiwrnodau busnes pan fo’r ystafelloedd cyfarfod i gyd yn llawn.
Cynhaliwyd adolygiad o’r swyddfeydd sydd ar gael i weithwyr y Comisiwn yn ddiweddar er mwyn canfod cyfleoedd i wneud y gorau o’r lle. Bydd angen i unrhyw newidiadau yn y defnydd o le adlewyrchu blaenoriaethau’r Comisiwn ac anghnenion y Cynulliad. Pwysleisiodd y Comisiynwyr yr angen i feddwl am yr heriau yn y dyfodol ar yr holl ystâd, gan gynnwys y presenoldeb yn y gogledd, wrth wneud penderfyniadau ynghylch rheoli’r ystâd. Dylid adolygu trefniadau ar gyfer isbrydlesu’r ystâd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac yn cynrychioli gwerth am arian.
Cytunwyd y byddai angen edrych ar y materion canlynol ymhellach:
· Defnyddio’r lle yn Nhŷ Hywel a’r Senedd i sicrhau y gellir diwallu anghenion y rhai sy’n defnyddio’r adeilad, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysurach;
· Trefniadau isbrydlesu yn Nhŷ Hywel;
· Prydles hirdymor Tŷ Hywel;
· Swyddfa’r Cynulliad yn y gogledd.
3. Papur i'w nodi – Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio 21 Chwefror
Nodwyd y cofnodion.
4. Unrhyw Fusnes Arall
Nid oedd materion eraill i’w trafod.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Ebrill 2013